Sut i ddefnyddio'r rhaglen
Mae hwn yn defnyddio LogIT felly plygiwch y LogIT i fewn i soced USB y cyfrifiadur. Sicrhewch bod synhwyrydd yn y tyllau 1, 2 neu 3.
Pwyswch DECHRAU SYNHWYRO i gychwyn. Pwyswch y LogIT yn y ffenest a pwyso Connect a mi fydd hyn yn cychwyn yr amserydd a dangos graffiau priodol. (gweithio yn dda ar Chromebook/ Google Chrome).
Pwyswch DECHRAU LOGIO ar gyfer dangos tabl canlyniadau. Gall newid pa mor aml mae'n logio wrth newid y cyfradd logio e.e. i logio pob 1 munud. Mae cyfradd logio Cyflymaf yn logio mor gyflym a phosib (tua unwaith pob 20ms). Peidiwch a newid synhwyrydd o tyllau 1,2,3 gan ni fydd yn pigo fyny'r newid.
Pwyswch STOPIO LOGIO i stopio logio ac mynd yn ôl i synhwyro arferol, wedyn gall newid synhwyrydd yn y tyllau.
Pwyswch COPIO TABL i gopio tabl i fewn i Google Sheets neu taenlen arall (fyny at 1000 rhes).
Pwyswch ar y saeth i lawr v wrth ymyl y synhwyrydd i newid y ffordd mae'r symhwyrydd yn gweithio e.e. mesur amledd.
Os ddim yn gweithio, pwyswch refresh a "DECHRAU SYNHWYRO" eto